
Mae Cyngor Ysgol Blaenau yn rhan annatod o fywyd yr ysgol. Cynhelir etholiad gan baratoi’r plant ar gyfer y broses ddemocrataidd ym mis Medi. Mae gan bob un rôl flaenllaw i chwarae ym mhenderfyniadau’r ysgol. Aelodau’r Cyngor sy’n gyfrifol am drefnu a rhedeg gweithgareddau a datblygu syniadau o fewn yr Ysgol.
Mae’r Cyngor yn cefnogi elusennau ac yn barod i gynnal gweithgareddau ar gyfer achosion da.
The School Council at Ysgol Blaenau is an integral part of school life. An election is held in September in order to prepare the children for the democratic process. Everyone has an important role in contributing to the school’s decision-making. The Council Members are responsible for organizing and running activities and promoting ideas within the school.
The Council supports charities and is keen to participate in activities in order to help good causes.
Yn Ysgol Blaenau rydym yn ymdrechu i fod yn gyfeillgar i’r amgylchedd. Mae’r Cyngor Eco yn gyfrifol am benderfynu beth ddylid ei wneud er mwyn – gwella tir yr ysgol, arbed ynni, lleihau gwastraff, ailddefnydd ac ailgylchu. Rydym hefyd yn ceisio bod yn ddinasyddion da ledled y byd drwy ddysgu am bwysigrwydd Masnach Deg.
Ein Cod Eco yw:
• Gofalu am ein hamgylchedd
• Cadw’r ysgol yn lân a thaclus
• Lleihau gwastraff trwy ailddefnyddio ac ailgylchu
• Hybu Masnach Deg
At Ysgol Blaenau we endeavour to be friendly to the environment. The Eco Council is responsible for deciding what should be done in order to – improve the school grounds, save energy, reduce waste, re-use and recycle. We also try to be good world-wide citizens by learning about the importance of Fair Trade.
Our Eco Code is
To protect our environment.
To keep the school clean and tidy.
To reduce waste by re-using and recycling.
To promote Fair Trade.